Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 8 Ionawr 2018
Amser:
14.30 -
15.39
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4489
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mick Antoniw AC (Cadeirydd) Dai Lloyd AC David Melding AC |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Tanwen Summers (Ail Glerc) Ruth Hatton (Dirprwy Glerc) Alys Thomas (Ymchwilydd) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Yn dilyn ymddiswyddiad Nathan Gill fel Aelod Cynulliad, hysbysodd y Cadeirydd fod lle gwag ar y Pwyllgor yn unol â Rheol Sefydlog 17.11. Diolchodd y Cadeirydd i Nathan am ei waith ar y Pwyllgor.
Fe wnaeth y Cadeirydd longyfarch David Melding AC ar ran y Pwyllgor ar dderbyn CBE yn anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd.
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
Cytunodd y Pwyllgor i drafod adroddiad drafft mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Nododd y Pwyllgor y llythyr.
Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf.
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.
Derbyniwyd y cynnig.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried hynt y Bil.
Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd i drafod fersiwn ddiwygiedig yn y cyfarfod ar 22 Ionawr 2018.
Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ynghyd â sylwadau gan y Panel Arbenigol.
Ymunodd yr Athro Rick Rawlings â'r Pwyllgor.
Nododd y Pwyllgor y flaenraglen waith.